Grŵp o organebau anfudol di-ben yw cregyn deuglawr (unigol: cragen ddeuglawr; Saesneg: bivalves) sy'n perthyn i'r dosbarth Bivalvia o fewn y ffylwm Mollusca. Mae'r dosbarth yma'n cynnwys:
Yn y gorffennol, cyfeirir atynt fel Lamellibranchiata a Pelecypoda. Maent i'w canfod mewn dŵr hallt a dŵr croyw. Mae'r gair 'clawr' yn yr enw 'cragen ddeuglawr' yn cyfeirio at ddau blât (neu 'haenau') cymesur o galsiwm carbonad a gynhyrchir gan secretiad o'i chwarennau, gyda cholfach yn eu cyplysu. Mae gan y gragen ddeuglawr hefyd ddwy falf er mwyn ffiltro'r bwyd o'r dŵr ac sy'n ei galluogi i anadlu a bwyta; esblygodd y tegyll yn organau arbenigol a elwir yn ctenidia i hwyluso hyn.
Mae rhai rhywogaethau'n claddu eu hunain mewn tywod neu bridd, gyda'r seiffon yn unig yn ymestyn i'r wyneb er mwyn iddi anadlu. Mae mathau eraill yn angori eu cyrff i graig neu'n gorwedd ar wely'r môr, a gall rhai mathau nofio e.e. cregyn bylchog.
Wystrysen mwya’r byd?
Gall hwn fod y wystrysen fwyaf i'w gweld ym Mhrydain?[1] Dyma adroddiad yn y Guardian yn 2009 am un “mwyaf” arall llai: It measures 18cm (7ins) across and weighs 1.36kg (3lbs), apparently the largest recorded in British waters. The previous largest, found in Scotland, weighed 0.83kg (1.8lbs).
Mae cregyn gleision Conwy yn fyd enwog. Yng nghanol yr 1980au bu Stephen Lockwood yn gyfarwyddwr Labordy Pysgodfeydd Conwy hyd nes iddo gau ym 1999. Rol Labordy Conwy oedd gwneud gwaith ymchwil ar feithrin pysgod a physgod cregyn ag effeithiau pysgota ar yr amgylchedd morol. Bu pysgodfa a physgotwyr cregyn gleision Conwy â chysylltiad agos â'r labordy a bu labordy Conwy yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu technegau ar gyfer cynhyrchiad masnachol y rhywogaethau hyn, technegau sy'n cael eu defnyddio ledled y byd.[2]
Mae cregyn gleision yn amrywio yn nhermau eu nodweddion a'r gwahanol fathau ohonynt. Mae angen rheoleiddio gwelyau'r cregyn gleision mewn mannau penodol ar aber yr afon Conwy. Mae dull lleol a lled unigryw o gasglu’r cregyn gleision sydd yn cael ei rannu a dull tebyg yn Long Island yn UDA, sef cribin arbennig.[2].
Yn oes aur y diwydiant ar y Gonwy amlygwyd problemau y gellid cael eu hachosi trwy fwyta cregyn gleision. Bu cynnydd ym mhoblogaeth yr ardal yn y 19G ac ar ddechrau'r 20G. Nid oedd carthion yn cael eu trin cyn iddynt gael eu harlIwys i Afon Conwy ac fe achoswyd yn sgil hynny broblemau coluddol i'r rhai oedd yn bwyta'r cregyn. Ym 1912, caewyd y bysgodfa gan yr awdurdodau iechyd. Blwyddyn yn ddiweddarach, penodwyd bacteriolegydd enwog, Robert Dodgson (dim yn berthynas I Charles "Lewis Carroll" Dodgson) gan Gyngor Conwy. Ei waith oedd datrys y broblem. Cynlluniodd ddull syml a dibynadwy i buro'r cregyn gleision. Mabwysiadwyd y model ar draws y byd.[2].
Grŵp o organebau anfudol di-ben yw cregyn deuglawr (unigol: cragen ddeuglawr; Saesneg: bivalves) sy'n perthyn i'r dosbarth Bivalvia o fewn y ffylwm Mollusca. Mae'r dosbarth yma'n cynnwys:
cragen fylchog (cregyn bylchog) a elwir hefyd yn 'gragen Berffro' (Saesneg: clams) wystrysen (wystrys), weithiau 'llymarch' (llymeirch) cocosen (cocos) cragen las neu 'misglen' (ll. cregyn gleision; Saesneg: mussels) cragen fylchog (ll. cregyn bylchog; Saesneg: 'scallops)Yn y gorffennol, cyfeirir atynt fel Lamellibranchiata a Pelecypoda. Maent i'w canfod mewn dŵr hallt a dŵr croyw. Mae'r gair 'clawr' yn yr enw 'cragen ddeuglawr' yn cyfeirio at ddau blât (neu 'haenau') cymesur o galsiwm carbonad a gynhyrchir gan secretiad o'i chwarennau, gyda cholfach yn eu cyplysu. Mae gan y gragen ddeuglawr hefyd ddwy falf er mwyn ffiltro'r bwyd o'r dŵr ac sy'n ei galluogi i anadlu a bwyta; esblygodd y tegyll yn organau arbenigol a elwir yn ctenidia i hwyluso hyn.
Mae rhai rhywogaethau'n claddu eu hunain mewn tywod neu bridd, gyda'r seiffon yn unig yn ymestyn i'r wyneb er mwyn iddi anadlu. Mae mathau eraill yn angori eu cyrff i graig neu'n gorwedd ar wely'r môr, a gall rhai mathau nofio e.e. cregyn bylchog.