Llysieuyn ydy dant y llew (enw arall ydy blodyn pi-pi gwely) (Ffrangeg: Pissenlit neu Dent-de-lion; Lladin: Taraxacum; Saesneg: Dandelion) sydd fel arfer yn tyfu'n wyllt. Mewn gardd, caiff ei ystyried yn chwynyn, er bod rhai'n ei dyfu oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae ganddo ddail sydd rhwng 5 a 25 cm o hyd. Dywed rhai botanegwyr fod tua 200 gwahanol fath, ond y gred bellach ydy mai tua 60 math gwahanol sydd.[1]
Credir fod dant y llew yn cynnwys: potasiwm, calsiwm, clorin (halwynau gwrthsurol), Fitamin C a Fitamin B1. Mae'r dail yn wych ar gyfer diffyg traul, at yr arenau ac at glirio'r gwaed. Mae rhinwedd arall hefyd: fel carthydd (laxative). Gellir bwyta'r dail ffres ar frechdan. O dorri'r coesyn bregus fe gewch sudd gwyn; gellir defnyddio hwn ar gyfer gwella defaid ar y croen. Gellir defnyddio'r gwreiddiau hefyd, o'u golchi, eu sychu a'u crasu'n dda ac yna eu gratio'n fân i wneud coffi di-gaffîn.[2]
2010: Bu gwanwyn 2010 yn arbennig am y blodyn pi-pi gwely. Bu ymylon y lonydd yn drwm o ddant y llew i'r graddau y bu i nifer sylwi arnynt a thrafod ar y cyfryngau hyd ganol mis Mai o leiaf. Bu son yn y gogledd orllewin ac yn y de. Llun: Duncan Brown 11/05/2010
Dyma esboniad Twm Elias o’r ffenomenon:
Ynteu ai sychder gwanwyn 2010 oedd yn gyfrifol? Beth am gnydau mawr o ddant y llew yn y gorffennol - a oeddynt yn gysylltiedig â gwanwynau sych?
1946: Dyma ddywedodd Edie Rutherford o Sheffield ar y 5 Fai 1946 yn ei dyddiadur: Last evening we went for a walk through Beeley Woods, cuckoo noisy and lots of other birds singing. Fields masses of dandelions... Tybed oedd gwanwyn 1946 yn sych fel 2010?
Dyma gofnododd adarwr o Swydd Gaerhirfryn y gwanwyn hwnnw yn British Birds: The spring of 1946 was marked by the unusual number of waders and other migrants which visited inland waters in S. Lancs, and N. Ches. between mid-April and mid-May. This period coincided with a spell of dry weather (no rain fell between April 28th and May 16th), which by reducing the water-level of the "flashes" (coal-mining subsidences) exposed suitable feeding-ground for waders.[3]
1984: Yn 1984 tynnwyd llun o’r doreth drawiadol o ddant y llew mewn cae ger Harlech y gwanwyn hwnnw[4]. Nodir ddau gofnod i'r perwyl o sychder gwanwyn y flwyddyn honno yn Nhywyddiadur Llên Natur[www.llennatur.cymru], sef 1) JA reports much more moss in pied flycatcher nests this year, perhaps because of its dryness earlier in the year and similarity to dried grass a 2) song thrushes going for snails at Bro Enddwyn to an exceptional degree (y pridd yn rhy galed i gyrraedd pryfed genwair?
Gan ei bod yn anodd dosrannu effeithiau'r ddau ffactor oerni a sychder oherwydd iddynt yn aml gyd redeg yn y gwanwyn, mae'n rhaid parhau i gadw meddwl agored ar ba sbardun sy'n ysgogi blynyddoedd dant y llew helaeth. Un peth sy'n hysbys: mae planhigion yn gyffredinol yn blodeuo'n helaethach pan font yn cael eu herio gan dywydd eithriadol o unrhyw fath - fel y dywedodd yr arddwraig Denise Quéré o Landerne, Llydaw: il faut les faire souffrir un peu - mae’n rhaid eu gwneud i ddioddef ychydig (i gael llwyth o flodau).[5]
Llysieuyn ydy dant y llew (enw arall ydy blodyn pi-pi gwely) (Ffrangeg: Pissenlit neu Dent-de-lion; Lladin: Taraxacum; Saesneg: Dandelion) sydd fel arfer yn tyfu'n wyllt. Mewn gardd, caiff ei ystyried yn chwynyn, er bod rhai'n ei dyfu oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae ganddo ddail sydd rhwng 5 a 25 cm o hyd. Dywed rhai botanegwyr fod tua 200 gwahanol fath, ond y gred bellach ydy mai tua 60 math gwahanol sydd.