Y teulu o adar sy'n cynnwys elyrch, gwyddau a hwyaid yw Anatidae. Mae'n cynnwys mwy na 160 o rywogaethau a geir mewn gwlyptiroedd ledled y byd ac eithrio Antarctica. Maent yn bwydo ar amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid megis pysgod, molysgiaid a chramenogion. Maent yn adar eitha mawr sy'n amrywio o 30 i 150 cm o ran maint. Mae ganddynt draed gweog, gwddf hir a phig wastad.