dcsimg

Merfog ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Pysgodyn sy'n byw mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Cyprinidae ydy'r merfog sy'n enw gwrywaidd; lluosog: merfogiaid (Lladin: Abramis brama; Saesneg: Common bream). Caiff ei ystyried, bellach, fel yr unig aelod o'r genws Abramis.

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop: i'r gogledd o'r Alpau a'r Pyreneau yn ogystal â'r Balcanau. Fe'i ceir i'r dwyrain cyn belled â'r Môr Caspia, y Môr Du a'r Môr Aral. Mae'n bysgodyn dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.

Mae'r Merfog i'w ganfod mewn pyllau dŵr, llynnoedd a chamlesi, a hyd yn oed afonydd llif-araf. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Disgrifiad

Mae'r merfog rhwng 30 a 55 cm (12 i 22 modfedd) ar gyfartaledd, ac yn pwyso 2 4 kg (4.4 to 8.8 pwys). Mae'r enghraifft mwyaf ohono tipyn yn fwy na hyn, fod bynnag: 90 cm (35.5 mod) a 9.1 kg (20 pwys)!

Mae'n llwyd ysgafn ei liw, sy'n tywyllu ychydig, wrth i'r pysgodyn fynd yn hŷn, gyda gwawr ysgafn, goch, yn enwedig mewn dŵr glân. Mae'r ffins yn llwyd tywyll, heb wawr goch.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Merfog: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Pysgodyn sy'n byw mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Cyprinidae ydy'r merfog sy'n enw gwrywaidd; lluosog: merfogiaid (Lladin: Abramis brama; Saesneg: Common bream). Caiff ei ystyried, bellach, fel yr unig aelod o'r genws Abramis.

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop: i'r gogledd o'r Alpau a'r Pyreneau yn ogystal â'r Balcanau. Fe'i ceir i'r dwyrain cyn belled â'r Môr Caspia, y Môr Du a'r Môr Aral. Mae'n bysgodyn dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.

Mae'r Merfog i'w ganfod mewn pyllau dŵr, llynnoedd a chamlesi, a hyd yn oed afonydd llif-araf. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY