dcsimg

Gŵydd Canada ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Branta canadensis

Mae Gŵydd Canada (Branta canadensis) yn un o'r mwyaf cyffredin o'r gwyddau. Mae'n frodor o Ogledd America, yn nythu yng Nghanada a gogledd yr Unol Daleithiau ac yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar lawr heb fod ymhell o ddŵr fel rheol.

 src=
Gwyddau Canada ar Lyn Petrual, Sir Ddinbych ym mis Hydref.

Gellir adnabod yr ŵydd yma yn hawdd o'r gwddf a pen du, gyda darn gwyn ar y gên, a'r corff yn llwydfrown. Mae'r ddau ryw yn debyg iawn i'w gilydd. Yr unig ŵydd sy'n weddol debyg yw'r Ŵydd Wyran, sy'n llai ac yn dangos wyneb gwyn. Mae 7 o is-rywogaethau o Ŵydd Canada, sy'n amrywio'n fawr o ran maint.

Erbyn hyn mae Gŵydd Canada wedi ei gollwng yn fwriadol mewn nifer o wledydd yn Ewrop ac yn Seland Newydd. Mae'n aderyn cyffredin ar lynnoedd a chorsydd Cymru, ac mae'n ymddangos bod y boblogaeth yn cynyddu, gyda heidiau o gannoedd i'w gweld mewn ambell fan.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY