Mae ffured (Mustela putorius furo) yn famal o'r genws Mustela. Mae'n greadur meingorff gyda blew melynwyn sy'n perthyn i dylwyth y ffwlbart a'r wenci. Credir iddo gael ei led-ddofi am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cael ei ddefnyddio i hela cwningod a llygod mawr trwy ei dychryn allan o'u tyllau. Erbyn heddiw mae'n anifail mynwes eithaf cyffredin yn ogystal.
Gelwir rhywun sy'n defnyddio ffuredau i hela yn ffuredwr.
Aristophanes a soniodd gyntaf am ‘’ffured’’ yn 450 CC ac wedyn Aristotl yn 350BC. Ysgrifennwyr Groeg a Rhufain yr Henfyd yn y ganrif gyntaf AD oedd y cyntaf i dystio am ddefnyddio ffuredi i hel cwningodo’u tyllau. Daeth y disgrifiadau cysàct cyntaf o ffuredi o Strabo tua 200 AD, pan y rhyddhawyd ffureti ar Ynysoedd y Balearig i reoli cwningod. O gofio bod y gwningen yn frodorol i Benrhyn Iberia ac gogledd-orllewin Affrica, yn y parthau hynny y cafodd y ffwlbart ei hyweddu.[1].
Mae’r ffured a’r ffwlbart yn debyg iawn i’w gilydd o ran maint a chyfrannedd, i’r graddau nad yw’n bosib gwahaniaethu ffuredi o flew tywyll oddi wrth eu cefndryd gwyllt, er fod penglog y ffured gyda chyfaint llai na’r ffwlbart a gwasgfa post-orbitaidd llymach[2]. O gymharu a’r ffwlbart mae gan y ffured ymennydd syweddol lai, er na wnaethpwyd y gymhariaeth honno gyda ffwlbartod Môr y Canoldir sef hynafiaid uniongyrchol y ffured[3]. Atgyfnerthir y theori o darddiaid Mediteranaidd y ffured gan y ffaith ei fod yn llai goddefol o oerfel nag isrywogaethau gogleddol y ffwlbart[4]. Mae’r ffured yn fwy ffrwythlon hefyd na’r ffwlbart; mae’n cynhyrchu dau dorllwyth y flwyddyn neu fwy, o’i gymharu ag un y ffwlbart[5][6]. Yn wahanol i is-rywogaethau eraill, sydd yn greaduriaid unig, mae’r ffured yn barod iawn i fyw mewn grwpiau cymdeithasol[7]. Mae’r ffured yn fwy araf ei holl symudiadau na’r ffwlbart, ac ni ddefnyddia braidd byth chwarennau drewllyd ei sawr rhefrol[8] Overall, the ferret represents a neotenous form of polecat.[9].