dcsimg

Codlys meylan ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys meylan (enw gwyddonol: Calypogeia integristipula; enw Saesneg: Meylan's pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond mae i'w gael dros y ffin yng Nghaer, ac oddi yno i'r Alban. Mae hefyd i'w gael mewn ambell le yn Iwerddon ac yn ne-ddwyrain Lloegr.

Disgrifiad

Er mwyn adnabod y rhywogaeth hon, mae'n rhaid edrych arni drwy feicrosgop. Mae'n debyg iawn i'r Codlys nees. Mae coesynnau'r Codlys meylan (C. integristipula) yn 1.5–3 mm o led, gyda dail 1.5 mm o hyd a 1.3 mm o led.

Cynefin

Fel y codlys nees, mae'n blanhigyn sy'n hoffi tir asidig e.e. cors a gall hefyd dyfu ar lethrau mawnog neu ar glogwyni sydd wedi'u gorchuddio â hwmws. Yn fwy anaml fe'i ceir yn y cysgod ar foncyffion sy'n pydru.

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Codlys meylan: Brief Summary ( Welsh )