dcsimg

Gwalch Marth ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r Gwalch Marth (Accipiter gentilis) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o ogledd Ewrop, Asia a Gogledd America.

Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, ond mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.

Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar, hyd at faint Ffesant ac anifeiliad hyd at faint Ysgyfarnog ambell dro. Mae'n medru symud yn gyflym drwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch Marth o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan, sy'n ei alluogi i symud yn gyflym trwy'r coed. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau llwyd ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy llwyd tywyll gyda llai o liw glas ar y cefn. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch Marth a'r Gwalch Glas ar brydiau, ond mae'r Gwalch Marth yn aderyn mwy o faint. Fel gyda'r Gwalch Glas, mae'r iâr yn fwy na'r ceiliog. Mae'r ceiliog rhwng 49 a 56 cm o hyd a 93–105 cm ar draws yr adenydd. Er fod y mesuriadau yma yn weddol debyg i iâr Gwalch Glas, mae'r Gwalch Marth yn edrych yn aderyn mwy. Mae'r iâr yn fwy o lawer, 58–64 cm o hyd a 108–127 cm ar draws yr adenydd, tua'r un faint a Bwncath.

Credir fod y Gwalch Marth wedi diflannu o Gymru erbyn y 19g, ond fod adar wedi eu rhyddhau yn ddiweddarach gan hebogwyr a'r rheini wedi ail-sefydlu'r boblogaeth. Mae wedi manteisio ar y fforestydd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy'n cynnig digon o le i nythu, ac mae'n debyg fod tua can pâr yn nythu yng Nghymru bellach, a'r nifer yn cynyddu.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY