dcsimg

Gweirlöyn cleisiog ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn cleisiog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod cleisiog; yr enw Saesneg yw Marbled White, a'r enw gwyddonol yw Melanargia galathea.[1]

 src=
Dau oedolyn
 src=
Ŵy

Gellir ei ganfod yn y rhan fwyaf o Ewrop, gogledd Affrica ac mor bell ag Iran. Drwy'r 20g cynyddwyd y nifer yng ngwledydd Prydain. Gweiriach yw ei fwyd ac mae Festuca rubra yn hanfodol i'w ddeiet.

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gweirlöyn cleisiog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Gweirlöyn cleisiog: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn cleisiog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod cleisiog; yr enw Saesneg yw Marbled White, a'r enw gwyddonol yw Melanargia galathea.

 src= Dau oedolyn  src= Ŵy