Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell alarus, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll galarus; yr enw Saesneg yw Camberwell Beauty (neu Mourning Cloak yn America), a'r enw gwyddonol yw Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa.[1][2] Mae'n löyn sydd i'w weld drwy Ewrop - yn enwedig y gwledydd Sgandinafaidd - ac yn ymwelydd prin â dwyrain Lloegr. Ar adegau (1846, 1872, 1947, 1976, 1995 a 2006) gwelwyd myrdd ohonynt. Eu cyfnod yn Lloegr ydy Awst a Medi.
Yr hen enwau arni yn Saesneg ydy: Grand Surprise a White Petticoat. Daw'r enw Saesneg o'r lleoliad (Coldharbour Lane, Camberwell ger Llundain) lle canfyddwyd dau esiampl ohoni yn Awst 1745.
62–75 mm ydy lled ei hadenydd ar ei anterth.
Prif fwy y siani flewog ydy coed llwyfen, poplys a helyg. Oherwydd hyn, mae i'w gweld fel arfer mewn coedlannau.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell alarus yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Ddiwedd mis Awst 2010 ymddangosodd yr hanesyn yma yn y newyddion:
Ond yn ôl Tywyddiadur Llên Natur, nid dyma’r fantell alarus gyntaf i gyrraedd gogledd Cymru:
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw mantell alarus, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll galarus; yr enw Saesneg yw Camberwell Beauty (neu Mourning Cloak yn America), a'r enw gwyddonol yw Nymphalis antiopa neu Aglais antiopa. Mae'n löyn sydd i'w weld drwy Ewrop - yn enwedig y gwledydd Sgandinafaidd - ac yn ymwelydd prin â dwyrain Lloegr. Ar adegau (1846, 1872, 1947, 1976, 1995 a 2006) gwelwyd myrdd ohonynt. Eu cyfnod yn Lloegr ydy Awst a Medi.
Y fantell alarus, wedi anafu ei hadenydd Nymphalis antiopa: siani flewog yn San Diego, California Ffotograff o'i hochor, Ontario, CanadaYr hen enwau arni yn Saesneg ydy: Grand Surprise a White Petticoat. Daw'r enw Saesneg o'r lleoliad (Coldharbour Lane, Camberwell ger Llundain) lle canfyddwyd dau esiampl ohoni yn Awst 1745.
62–75 mm ydy lled ei hadenydd ar ei anterth.