dcsimg

Brân dyddyn ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Dosbarthiad y Frân Dyddyn

Mae'r Frân Dyddyn (Corvus corone) yn aelod o deulu'r brain. Mae un is-rywogaeth, C. c. corone yn nythu yng ngorllewin a chanol Ewrop ac is-rywogaeth arall, C. c. orientalis, yn nythu yn nwyrain Asia.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rheng y Frân Dyddyn ac aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd yn ddu i gyd. Mae'n aderyn tipyn llai na'r Gigfran, 48 – 52 cm o hyd,ac mae pig y Frân Dyddyn yn deneuach na phig y Gigfran. Mae'r Ydfran yn fwy tebyg i'r Frân Dyddyn o ran maint, ond gellir gwahaniaethu'r oedolion gan fod darn moel heb blu arno o gwmpas y ffroenau yn yr Ydfran, tra mae'r plu yn dod yr holl ffordd at y pig yn y Frân Dyddyn. Yr adar ieuanc yw'r anoddaf i'w gwahaniaethu, gan fod pig Ydfran ieuanc yr un fath â'r Frân Dyddyn; y gwahaniaeth mwyaf defnyddiol yw fod gan yr Ydfran fwy o "dalcen". Mae'r Ydfran fel rheol yn fwy parod i ffurfio heidiau na'r Frân Dyddyn.

Mae'r Frân Dyddyn yn bwyta bron unrhyw beth sydd ar gael, yn cynnwys anifeiliaid wedi marw ac wyau adar eraill. Adeiledir y nyth mewn coed neu ambell dro ar glogwyni, gan ddodwy 4 - 5 wy.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY