Llysieuyn bychan rhwng 20 – 60 cm yw danadl poethion neu'r dynaint neu weithiau dynad (Lladin: Urtica dioica; Saesneg: nettle) ac mae fel arfer yn tyfu fel chwynyn mewn hen erddi neu wrychoedd. Ceir rhwng 35 a 40 math gwahanol ohono.
Mae danadl poethion yn gyfoethog o rinweddau ac yn cynnwys: asid carbonig, asid fformig, aminia, haearn, ffosffadau a Fitamin A.[1] Gellir eu bwyta fel bresych (wedi'u berwi) gyda chaws mân neu fenyn, neu yfed y dŵr fel te: sydd yn dda at gowt a chael gwared o gerrig o'r corff.
Mae un astudiaeth o'r gwenwyn sydd ynddynt yn mynnu fod seratonin, asid ocsalig ac asid tartarig ynddo.