dcsimg

Chwannen ( Welsh )

provided by wikipedia CY
Am y llyfr, gweler Chwannen (llyfr).

Pryfyn bychan diadain yw'r chwannen sy'n gyfystyr â'r urdd Siphonaptera. Ceir disgrifiadau gwyddonol o 2500 o rywogaethau. Parasitiaid yw chwain sy'n bwydo ar waed mamaliaid ac adar. Lliw brown tywyll neu ddu ydynt gan amlaf, a thua 3 mm (0.12 in) o hyd pan yn llawn oed. Gallant neidio rhyw 50 gwaith hyd y corff. Esgblygodd chwain ar ddechrau'r cyfnod Cretasaidd, yn debyg fel ectoparasitiaid ar mamaliaid a bolgodogion, ac yn hwyrach adar.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY