Cnofil sy'n perthyn i'r is-deulu Cricetinae yw'r bochdew (lluosog: bochdewion), a elwir hefyd yn fochog (ll: bochogion), twrlla'r Almaen (ll: twrllaod yr Almaen), codlyg (ll: codlygod), neu lygoden fochog (ll: llygod bochog).[1] Mae'r is-deulu yn cynnwys tua 25 o rywogaethau, mewn chwech neu saith genws.[2] Maent yn anifeiliaid anwes poblogaidd.
Cnofil sy'n perthyn i'r is-deulu Cricetinae yw'r bochdew (lluosog: bochdewion), a elwir hefyd yn fochog (ll: bochogion), twrlla'r Almaen (ll: twrllaod yr Almaen), codlyg (ll: codlygod), neu lygoden fochog (ll: llygod bochog). Mae'r is-deulu yn cynnwys tua 25 o rywogaethau, mewn chwech neu saith genws. Maent yn anifeiliaid anwes poblogaidd.