Organebau organebau amlgellog, Ewcaryot, sy'n perthyn i'r deyrnas Animalia yw anifeiliaid. Fel arfer, gallant symud ac adweithio'n annibynol yn yr amgylchedd, bwyta ac ysgarthu. Gallan nhw ddim gwneud ffotosynthesis, ond gallant fwyta planhigion ac organebau eraill i gael egni. Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.
Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.[1]
Yn ystod y cyfnod Cambriaidd yr ymddangosodd y ffylwm anifail, a hynny oddeutu 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl; gwelwn hyn yn y dystiolaeth o ffosiliau o'r cyfnod. Rhennir y grwp 'anifeiliaid' yn isgrwpiau, gan gynnwys: adar, mamaliaid, amffibiaid, ymlusgiaid, pysgod a pryfaid.
Defnyddir y gair "animalia" gan y naturiaethwyr yn hytrach nag "anifail". Mae'r gair "animalia" yn dod o'r gair Lladin animalis, sy'n golygu "gydag anadl".[2][3]
Organebau organebau amlgellog, Ewcaryot, sy'n perthyn i'r deyrnas Animalia yw anifeiliaid. Fel arfer, gallant symud ac adweithio'n annibynol yn yr amgylchedd, bwyta ac ysgarthu. Gallan nhw ddim gwneud ffotosynthesis, ond gallant fwyta planhigion ac organebau eraill i gael egni. Yr astudiaeth o anifeiliaid yw sŵoleg.
Pan yn siarad yn gyffredinol am anifeiliaid, nid yw'n cynnwys bodau dynol yn aml, ond mewn gwirionedd mae dyn yn anifail, hefyd.