Anifeiliaid di-asgwrn-cefn o'r ffylwm Nematoda yw llyngyr crynion. Mae tua 20,000 o rywogaethau sy'n niferus iawn mewn moroedd, dŵr croyw ac ar dir. Mae llawer o lyngyr crynion yn barasitig.