Pryfed bychan o deulu'r Culicidae yw mosgitos. Mae ganddynt adenydd cennog, corff main a chwech coes hir. Mae'r gwrywod yn bwydo ar neithdar yn unig ond, mewn llawer o rywogaethau, mae'r benywod yn ectoparasit sy'n bwydo ar waed hefyd, drwy ddefnyddio rhan o'u gec sydd wedi'i ffurfio'n diwb hir. Drwy sugno gwaed a theithio o un anifail i'r llall mae benyw miloedd o rywogaethau'n trosglwyddo clefydau megis malaria, y feirws Zika, gwibgymalwst a'r dwymyn felen ond ceir rhai ohonyn nhw sy'n gwbwl ddiniwed. Mae rhai awdurdodau'n dadlau mai'r mosgito ydy'r anifail mwyaf peryglus i ddyn ar y blaned.[2][3][4][5]
Ceir dros 3,500 rhywogaeth ledled y byd[6][7] a gwnant niwed i filiynau o bobl yn flynyddol.[8][9] Mae gwaed amrywiaeth eang o anifeiliaid yn cael eu sugno ganddynt, gan gynnwys: fertebratau (gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid a rhai mathau o bysgod.
Tarddiad y gair ydy mosca a ito, sef y Sbaeneg am "bry bychan".[10]
Canfuwyd mosigito gydag anatomeg digon tebyg i'r math a geir heddiw mewn gwefr (neu 'ambr') 79-miliwn o flynyddoedd oed (y cyfnod Cretasaidd), yng Nghanada.[11] Yn Myanmar, canfuwyd perthynas hŷn - 90-100-miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[12] Ychydig iawn o newid a fu ym morffoleg y mosgito dros y milenias, yn enwedig o gymharu'r rhywogaetha presennol gyda'r rhai a oedd yn byw 46-miliwn o flynyddoedd CP.[13] Ffosiliau o fosgitos yw'r rhai hynaf i gynnwys tystiolaeth o waed yn yr abdomen.[14][15] Er na ddarganfuwyd ffosiliau o fosgitos a oedd yn byw cyn y cyfnod Cretasaidd, dengys ymchwil gwyddonol diweddar iddynt wahanu o fathau eraill oddeutu 226-miliwn o flynyddoedd CP.[16]
Pryfed bychan o deulu'r Culicidae yw mosgitos. Mae ganddynt adenydd cennog, corff main a chwech coes hir. Mae'r gwrywod yn bwydo ar neithdar yn unig ond, mewn llawer o rywogaethau, mae'r benywod yn ectoparasit sy'n bwydo ar waed hefyd, drwy ddefnyddio rhan o'u gec sydd wedi'i ffurfio'n diwb hir. Drwy sugno gwaed a theithio o un anifail i'r llall mae benyw miloedd o rywogaethau'n trosglwyddo clefydau megis malaria, y feirws Zika, gwibgymalwst a'r dwymyn felen ond ceir rhai ohonyn nhw sy'n gwbwl ddiniwed. Mae rhai awdurdodau'n dadlau mai'r mosgito ydy'r anifail mwyaf peryglus i ddyn ar y blaned.
Ceir dros 3,500 rhywogaeth ledled y byd a gwnant niwed i filiynau o bobl yn flynyddol. Mae gwaed amrywiaeth eang o anifeiliaid yn cael eu sugno ganddynt, gan gynnwys: fertebratau (gan gynnwys mamaliaid, adar, ymlusgiaid, amffibiaid a rhai mathau o bysgod.
Tarddiad y gair ydy mosca a ito, sef y Sbaeneg am "bry bychan".